Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Tachwedd 2023
Amser:
09.30 -
14.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13777
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Darren Millar AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Professor
Alistair Clark, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth, Prifysgol
Newcastle Jess Blair, Electoral Reform Society Cymru Alberto Smith, Make Votes Matter Professor Ailsa Henderson, Cadeirydd, Boundaries Scotland Malcolm Burr, Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Catherine Roberts (Dirprwy Glerc) Josh Hayman (Ymchwilydd) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion systemau etholiadol
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Alistair Clark a Dr Jac Larner.
3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau diwygio etholiadol
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru a Make Votes Matter.
Cytunodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
· Y gwaith modelu y mae wedi’i wneud mewn perthynas â chymhwyso cwotâu rhywedd ymgeiswyr i systemau etholiadol gwahanol ar gyfer etholiadau’r Senedd.
· Unrhyw ystyriaeth y mae wedi’i gwneud o faterion sy’n ymwneud â’r posibilrwydd o fecanwaith i adalw Aelodau o’r Senedd.
4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth ar y profiad diwygio etholiadol a ffiniau yn yr Alban
Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Boundaries Scotland a Bwrdd Rheoli
Etholiadol yr Alban.
5 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd y Gymraeg
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd a ragwelir – 20 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.2 Llythyr i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd a ragweli – 25 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.3 Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch y Bil cwotâu rhywedd a ragwelir – 1 Tachwedd 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.4 Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – 31 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.5 Ymateb gan gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd – 2 Tachwedd 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.